Croeso i Ysgol Abererch
Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalgar lle’r ymdrechir i hyrwyddo twf ysbrydol a moesol y plant. Ein nôd yw rhoi cyfle i bawb lwyddo. Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi ymrwymo i sicrhau fod bob plentyn yn cael dechreuad cadarn, nid yn unig yn llythrennedd a rhifedd ond hefyd mewn sgiliau, ymagweddau a gwerthoedd sydd yn angenrheidiol i lwyddo wrth iddynt aeddfedu i fod yn oedolion.