Datganiad Gwariant Grant Datblygu Disgyblion Ysgol Abererch
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

GRANT DYSGU PROFFESIYNOL - £1265
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

GRANT AMDDIFADEDD 2016 - 2017
Cliciwch yma am ein Datganiad Grant Amddifadedd

GRANT YMDDIRIEDOLAETH ENLLI -£120
Derbyniwyd grant oedd yn talu am hanner cost mynd a blwyddyn 5 a 6 i Enlli.
Cliciwch yma i weld y lluniau

GRANT PLAS MENAI -£1040
Llwyddwyd i dderbyn arian grant o’r Thomas Howell Fund i dalu y rhan fwyaf o’r costau i fynd a’r disgyblion ar ymweliad preswyl i Plas Menai yn 2015.Bydd y disgyblion yn treulio tri diwrnod yn y ganolfan yn Mawrth 2015.

GAD 2014/15 - £2754
Mae’r ysgol yn derbyn arian grant y llywodraeth (grant Amddifadedd Disgyblion) am bob plentyn sydd â hawl i ginio am ddim.Mae’n ofynnol i bob ysgol amlinellu sut mae’n gwario’r arian.
- Cyflogi uwch-gymhorthydd i dargedu disgyblion mewn grwpiau – canolbwyntio ar iaith a rhifedd.
- Buddsoddi yn y cynllun darllen Saesneg Reading Eggs.
- Cynnal noson gwricwlaidd mathemateg i ddangos i’r rhieni sut y dysgir mathemateg i’r disgyblion.
- Cydweithio gyda ysgolion eraill y dalgylch i greu adnoddau ar gyfer gweithredu y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd- canolbwyntio ar ymresymu rhifol.
- Creu pecynnau gemau iaith a rhifedd i’r plant fynd adref gyda’u rhieni.
- Dadansoddi profion cenedlaethol er mwyn cynllunio.
- Trefnu hyfforddiant rhifedd a llythrenned dalgylchol.
- Mabwysiadu’r cynllun talabout- prynu adnoddau a hyfforddi aelod o staff.